Dyfarnu'r dyfarnwyr

  • Cyhoeddwyd
joubert runsFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth un o ddyfarnwyr rygbi gorau'r byd o dan y lach dros y penwythnos yn dilyn ei benderfyniad dadleuol i roi cic gosb i Awstralia yn hwyr yn eu gêm yn erbyn yr Alban yn rownd wyth ola' Cwpan y Byd.

Roedd penderfyniad Craig Joubert yn golygu, o bwynt un unig, mai'r gŵyr o hemisffer y De fyddai'n mynd yn eu blaenau i'r rownd gyn-derfynol.

Ers hynny mae'r gŵr o Dde Affrica wedi cael ei feirniadu yn chwyrn o fewn y cylchoedd rygbi.

Ond mae Gareth Rhys Owen, cyflwynydd newydd y Clwb Rygbi ar S4C, yn cynnig rhywfaint o gysur i Joubert:

Druan o Craig Joubert. Mae e 'run mor amhoblogaidd â Margaret Thatcher yn canu Land of Hope and Glory.

Er tegwch i Joubert ma' 'di cal ei lambastio am beidio ymgynghori gyda'r dyfarnwr fideo (er nad oedd hawl ganddo); am roi cic gosb yn hytrach na sgrym (er nad oedd yr arbenigwyr yn gytun ar y dyfarniad cywir); ac am redeg i ffwrdd ar ddiwedd y gêm (er bod ymateb chwyrn gwefannau cymdeithasol yn awgrymu nad oedd dianc yn syniad ffôl).

Ond nid Joubert yw'r dyfarnwr cynta' i gael ei feirniadu am gael pethau yn anghywir ar y cae rygbi...

Disgrifiad o’r llun,
Capten Cymru, Sam Warburton, yn gweld coch yn y gêm yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan y Byd 2011

Alain Rolland, 2011. Dych chi'n cofio Sam ni yn cael ei ddanfon o'r cae? Cofio pa mor gandryll oeddem ni fel cenedl? Os edrychwch chi eto, ma'n anodd dadlau gyda'r penderfyniad.

Disgrifiad o’r llun,
Dyw Andy Haden ddim yn difaru deifio'n theatrig i'r llawr er mwyn ennill cig gosb yn erbyn Cymru 'nôl yn 1978

Roger Quittenton, 1978. "Roger Pwy?" dwi'n clywed chi'n gofyn. Wel dyma'r gŵr oedd yn dyfarnu pan oedd Cymru yn arwain y Crysau Duon 'da chwech munud yn weddill yn y gêm. Roedd gan Gymru lein amddiffynnol pan yn sydyn fe ddeifiodd clo'r Cryse Duon, Andy Haden, i'r llawr yn yr arddull mwya' theatrig erioed.

Anghofiwch Tom Daley neu Jürgen Klinsmann, roedd Haden yn haeddu 10 pwynt am ei ymdrech. Cafodd Mr Quittenton ei dwyllo'n llwyr gan roi cic gosb i Seland Newydd, ac fe aethon nhw 'mlaen i gipio buddugoliaeth.

Disgrifiad o’r llun,
Doedd y Cymry ddim yn cytuno rhyw lawer gyda phenderfyniad Chris White yn 2007

Chris White, 2007. "Faint o amser sydd yn weddill?" Dyma ofynnodd James Hook ar ddiwedd gem rhwng Cymru a'r Eidal yn y Chwe Gwlad yn 2007. "10 eiliad" oedd ateb y dyfarnwr Chris White, ac felly fe giciodd Hook i'r gornel am linell, gan anwybyddu'r cyfle am cic gosb i ddod a'r gêm yn gyfartal.

Wrth i flaenwyr Cymru baratoi ar gyfer y lein, dyma'r dyfarnwr yn dod a'r gêm i ben. Mae chwaraewyr Cymru yn mynd yn wallgo' a finne yn eisteddle'r Stadio Flaminio yn Rhufain gyda bocs o Chianti rhad wedi drysu'n llwyr.

Ffynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,
Y tro yma, Cymru oedd yn elwa ar draul y Gwyddelod

Jonathan Kaplan, 2011. Cofio digwyddiad Mike Phillips yn 2011? Na? Na fi chwaith… Ma'r anghyfiawnderau wastad yn aros yn y cof yn hirach pan fo' penderfyniadau yn mynd yn ein herbyn ni.

Y tro yma, fe fanteisiodd Mike Phillips ar lein gafodd ei chymryd yn gyflym, er nad oedd modd gwneud hynny gan bod yn rhaid defnyddio'r un bêl gafodd ei chicio oddi ar y cae. Er i Kaplan wneud camgymeriad, prin iawn oedd y cwyno yma yng Nghymru am rhyw reswm...

Bydd Gareth Rhys Owen yn cyflwyno Y Clwb Rygbi, S4C, Dydd Sadwrn, 24 Hydref, 13:15.

Y gêm fyw ydi'r Gweilch v Connaght yn y PRO12