Chwilio am fam i fabi newyddanedig yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n chwilio am fam i fabi y maen nhw'n credu iddo gael ei eni heb gymorth meddygol yng Nghasnewydd.
Mae'n debyg fod y babi wedi cael ei eni yn yr awyr agored yn ystod y 48 awr ddiwethaf yn ardal Pen-hŵ y ddinas.
Mae Heddlu Gwent yn apelio ar i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y fam neu'r babi i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.