Lan a lawr

  • Cyhoeddwyd
Max Boyce

Ar Dachwedd 15 1975, llwyddodd y canwr a'r digrifwr Max Boyce i dorri record sydd dal mewn bodolaeth hyd heddiw. Llwyddodd ei record hir, 'We All Had Doctors Papers' i gyrraedd brig y siartiau recordiau hir ym Mhrydain. Y record gomedi gyntaf, a'r olaf i lwyddo i gyrraedd rhif un.

Dim ond am wythnos fuodd hi ar y brig ond roedd safle Max yn y llyfrau hanes wedi ei selio.

Dyw'r Cymry ddim wedi cyrraedd brig y siartiau Prydeinig yn aml ond dyma i chi gip ar rai o'r artistiaid gafodd lwyddiant byrhoedlog:

Disgrifiad o’r llun,
Peter Ham a Badfinger

Badfinger

Llwyddodd y band o Abertawe i gyrraedd y brig bedair gwaith rhwng 1970 a 1972. Ond mae 'na hanes trist tu ôl i'r llwyddiant gyda'r aelodau'n colli miloedd o bunnoedd oherwydd cytundebau rheoli amwys. Roedd hyn yn rhannol gyfrifol am benderfynaid y canwr Peter Ham i ladd ei hun.

Ond nhw oedd y band cyntaf i arwyddo i label recordiau'r Beatles, sef Apple, a nhw gyfansoddodd 'Without You', oedd yn hit enfawr i Harry Nielsen. Doedd y gân ddim yn lwyddiant mawr pan gafodd ei rhyddhau gan y band yn wreiddiol ond ers hynny mae'n un o'r caneuon sydd yn dal i werthu yn dda.

Yn fwyaf diweddar, mae Badfinger wedi dod i amlygrwydd eto, gan taw un o'u caneuon nhw, 'Baby Blue' oedd y gân gafodd ei chwarae ar ddiwedd y gyfres boblogaidd 'Breaking Bad.'

Disgrifiad o’r llun,
Y Flying Pickets, gyda Brian Hibbard y trydydd o'r chwith. Yn eironig, fe drefnodd Hibbard llinell biced tu fas i stiwdio 'Top of the Pops' adeg streic y glowyr yn 1984.

Y Flying Pickets

Yr actor Brian Hibbard yw cysylltiad Cymreig y band acapella hwn gyrhaeddodd rif un adeg Nadolig 1983 gyda'u fersiwn nhw o gân Yazoo, (Alison Moyet) 'Only You.'

Daeth Hibbard yn adnabyddus fel actor wedi hyn, a mae'n fwyaf adnabyddus i ni fel tad y prif gymeriad yn 'Pam Fi Duw', Johnny Mac yn 'Pobol y Cwm' a Dai Rees, y brenin carioci yn 'Twin Town.'

Bu farw Brian Hibbard o ganser yn 2012.

Disgrifiad o’r llun,
The Automatic

The Automatic

Dyma'r unig fand llwyddiannus i ddod o'r Bontfaen (hyd y gwyddon ni!). Roedd 'Monster' yn lwyddiant mawr i The Automatic ac mi gyrhaedodd hi rif 4 yn siartiau senglau Prydain. Mae'r band wedi rhyddhau senglau eraill ers hynny ond hon o bell ffordd yw eu cân fwyaf poblogaidd.

Erbyn hyn, mae'r band yn mwynhau hoe am ychydig tra fod rhai o'r aelodau'n gweithio ar brosiectau eraill. O diar!

Alabama 3

Pwy? Wel Rob Spragg o Nelson ger Caerffili yw canwr y band, sydd yn adnabyddus am gerddoriaeth agoriadol y gyfres boblogaidd, 'The Sopranos'.

Mae 'Woke Up This Morning' a'r ddelwedd o Tony Soprano'n gyrru lawr y draffordd yn olygfa fydd yn aros gyda llawer, er taw freeway New Jersey sydd yn y gyfres a nid yr A472 i Nelson.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Steve Strange neu Stephen John Harrington o Drecelyn

Visage

Mae'n rhyfedd i feddwl fod Visage wedi mwynhau pump sengl lwyddiannus rhwng 1978 a 1985 ond dim ond un sy'n adnabyddus i'r mwyafrif, sef yr anthem New Romantic 'Fade to Grey'.

Cysylltiad Cymreig y band oedd Steve Strange, sylfaenydd a chanwr y band, gafodd ei eni a'i fagu yn Nhrecelyn, ger Caerffili.

Roedd yn gweithio fel hyrwyddwr o gwmpas nifer o glybiau nos Llundain pan ffurfiodd y band, ond cafodd ei ysgogi i gymryd diddordeb mewn cerddoriaeth wedi iddo weld y Sex Pistols yn perfformio yng Nghaerffili yn 1976.