Colli swyddi: 'Gweithwyr diog'
- Cyhoeddwyd

Yn ôl pennaeth, "gweithwyr diog" oedd y rheswm pam aeth canolfan alwadau yn Nhorfaen i'r wal cyn iddo sefydlu cwmni arall gerllaw.
Cafodd Griffin Place Communications ei ddirwyn i ben yn Awst a chollodd 120 eu swyddi yng Nghwmbrân er i'r cwmni dderbyn £600,000 o arian cyhoeddus.
Roedd y cyfarwyddwr Stephen Wigg wedi beio staff cyn iddo sefydlu cwmni ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth raglen BBC Cymru The Wales Report eu bod wedi ystyried pa mor ymarferol oedd y busnes yn Nhorfaen cyn buddsoddi.
Ond mae rhai wedi gofyn pam y cafodd Mr Wigg yr arian o gofio fod ei fusnes AAC Media yn Essex wedi dirwyn i ben yn 2014.
Roedd Mr Wigg wedi honni bod y busnes yng Nghwmbrân wedi methu oherwydd camymddygiad staff, gan gynnwys meddwi.
Ond mae cyn weithwyr wedi gofyn pam oedd y llywodraeth wedi cefnogi'r busnes.
Dywedodd Katherine Kennard fod y gweithwyr yn gydwybodol ac yn gweithio oriau ychwanegol os oedd angen.
£2m
Clywodd cyfarfod credydwyr fod gan y cwmni yng Nghwmbrân ddyled o bron £2m.
Sefydlodd Mr Wigg ei gwmni newydd - Griffin Place Media - yng Nglyn Ebwy yn Awst ond mae wedi dod i ben.
Mae'r arbenigwr ariannol Gerry Holtham wedi amau pa mor effeithiol oedd grantiau wrth greu swyddi.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth iddyn nhw gael cais am arian yng Ngorffennaf 2014 a bod bwriad i greu 300 o swyddi yng Nghwmbrân. Roedd 121 angen cefnogaeth ariannol.
"Mae'r llywodraeth am adennill cymaint o'r ddyled â phosib," meddai.
The Wales Report, BBC Un, 22:40, nos Fercher