Cerddorfa Gymreig y BBC ar ei ffordd i Batagonia

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru Huw Thomas aeth i weld y gerddorfa'n ymarfer

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar fin dechrau ei thaith gyntaf i Dde America.

Am dair wythnos, bydd y gerddorfa'n perfformio cyngherddau yn yr Ariannin, Chile ac Uruguay.

Hon fydd taith fwyaf uchelgeisiol y gerddorfa hyd yn hyn.

Y gerddorfa fydd yr un broffesiynol gyntaf i deithio i'r Wladfa ym Mhatagonia lle bydd rhai o aelodau'r gerddorfa yn cynnal cyfnod preswyl o wythnos i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r gymuned.

Bydd gweithdai yn cael eu cynnal mewn ysgolion, cartrefi i'r henoed a thai rhai o drigolion y Wladfa.

Ddydd Gwener, 30 Hydref, bydd dwy gyngerdd ar ddiwedd y daith ym Mhatagonia.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Grant Llewellyn yn rhannu ei brofiad gydag arweinwyr grwpiau cerddoriaeth leol

Sut mae'r gerddorfa yn cyrraedd De America?

  • 45 o focsys sy'n tywys dros 260 o offerynnau a chyfarpar y gerddorfa. Mae chwech o focsys yn cynnwys gwisgoedd ffurfiol yr aelodau;
  • Mae'r cyfarpar a'r offerynnau yn pwyso 3.5 tunnell - yr un pwysau â 3,500 o fagiau o siwgr;
  • Dros dair wythnos bydd y gerddorfa yn teithio 17,171 o filltiroedd - yr un pellter â cherdded Llwybr Arfordir Cymru 19 o weithiau.
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cyfarpar a'r offerynnau fydd yn cael eu cludo yn pwyso 3.5 tunnell

Y delynores Catrin Finch yw un o'r rhai sy'n ymweld â'r Wladfa gyda'r gerddorfa, tra bydd yr arweinydd Grant Llewellyn a 12 aelod o'r gerddorfa yn gweithio gyda dros 1,000 o blant o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol.

Bydd gweithdai yn cael eu cynnal mewn trefi fel Puerto Madryn, Rawson, Trelew, Trevelin, Esquel a'r Gaiman gyda nifer o weithgareddau mewn lleoliadau gwledig lle nad oes modd profi arlwy ddiwylliannol a chelfyddydol o ddydd i ddydd.

Ar ôl ymweld â'r Wladfa, bydd y gerddorfa'n teithio i Buenos Aires cyn teithio i Chile ac Uruguay.

'Sgil arbennig'

Dywedodd cyfarwyddwr y gerddorfa, Michael Garvey: "Yr uchelgais yw mynd â'r hyn rydym yn ei wneud yma yng Nghymru i gymuned Gymreig arall.

"Ydy, mae'n rhan o ddathliadau hyfryd y Wladfa, a'r pen-blwydd yn 150 eleni, ond mae hefyd yn mynd i roi syniad o waith cyfoes y gerddorfa.

"Rydyn ni'n gwneud llawer mwy na pherfformio cyngherddau. Mae ystod eang gwaith y gerddorfa yn cynnwys ein gwaith mewn addysg ac yn y gymuned, yn ceisio ysgogi pobl i hoffi cerddoriaeth glasurol ac i wybod mwy amdano.

"Mae'n sgil arbennig sydd gan aelodau'r gerddorfa - nid yn unig chwarae'r gerddoriaeth mewn ffordd fendigedig ond gallu cyfathrebu a dysgu hefyd. Dyna beth rydyn ni'n trio ei gyflawni wrth fynd â'r gerddorfa dramor."

Disgrifiad o’r llun,
Hon fydd taith fwyaf uchelgeisiol y gerddorfa hyd yn hyn

Y gweithgareddauym Mhatagonia

  • Gweithdai i dros 1,000 o blant o 29 o ysgolion;
  • Teithio i chwech o drefi ym Mhatagonia - Trevelin, Esquel, Trelew, Gaiman, Rawson a Puerto Madryn;
  • Aelodau'r gerddorfa i weithio gyda phump o gerddorfeydd ifanc a chymunedol;
  • Rheolwr corws y gerddorfa, Osian, i weithio gyda chwech o gorau gan gynnwys Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru;
  • Andy Pidcock a chwaraewyr y gerddorfa i gynnal 14 o weithdai i blant o ysgolion arbennig;
  • Yr arweinydd, Grant Llewellyn, i rannu ei brofiad gydag arweinwyr grwpiau cerddoriaeth leol;
  • Catrin Finch i hyfforddi telynorion lleol;
  • Chwaraewyr y gerddorfa i berfformio chwe gwaith, gan gynnwys tri pherfformiad anffurfiol, Noson Lawen, a dwy gyngerdd;
  • Y gerddorfa gyfan i berfformio dwy gyngerdd i dros 2,000 mewn storfa wlân sydd wedi'i haddasu.

Bydd modd clywed hanes taith Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i Batagonia, a rhai o berfformiadau y Cyngerdd Gala yn Nhrelew, yn Y Gerddorfa ym Mhatagonia ar BBC Radio Cymru ar Dachwedd 15fed am 15:00.