Enwi 10 cwmni wnaeth fethu â thalu isafswm cyflog
- Published
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi enwau deg o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi methu â thalu'r isafswm cyflog i weithwyr.
£7,587 yw cyfanswm yr arian sy'n ddyledus gan y 10 cwmni i 10 gweithiwr.
Roedd y cwmnïau dan sylw yn amrywio o orsafoedd petrol, siop trin gwallt a chwmnïau teithio.
Yn Hydref 2013 fe wnaeth y llywodraeth newid y rheolau, gan ganiatáu iddyn nhw enwi cwmnïau oedd wedi torri rheolau yn ymwneud â chyflogau.
Ar 1 Hydref fe wnaeth lefel yr isafswm cyflog cenedlaethol gynyddu 20 ceiniog i £6.70 yr awr i oedolion.
I bobl rhwng 18-20 oed mae'n £5.30 yr awr, a £3.87 i bobl 16-17 oed.
Mae gan brentisiaid hawl i dderbyn isafswm cyflog ar gyfer yr oedran perthnasol.
Fe allai cwmnïau sydd ddim yn talu'r cyflog cywir wynebu dirwy o hyd at £20,000 yn ogystal ag achos troseddol.
- Elgan Davies Cyf, Aberteifi, Ceredigion, wedi methu talu £2,312 i weithiwr;
- Nicholas Crosby, Beyond the Fringe, Cwmbrân, Torfaen, am beidio â thalu £1,687 i weithiwr;
- YMCA Cangen Bargoed a'r Cylch, Caerffili, am beidio â thalu £1,372 i weithiwr;
- KJM Autos Cyf, Hengoed, Caerffili, am beidio â thalu £736 i weithiwr;
- Ceredigion Couriers Cyf, Machynlleth, Powys, am beidio â thalu £620 i weithiwr;
- Forward Life Cyf, Abertawe, am beidio â thalu £286 i weithiwr;
- DK Forecourts Cyf, yn masnachu fel Texaco Garage, Caerffili, am beidio â thalu £156 i weithiwr;
- DK Forecourts Cyf, yn masnachu fel Pavillion Garage, Pont-y-pwl, Torfaen, am beidio â thalu £151 i weithiwr;
- Coach Travel Wales Cyf, Aberystwyth, am beidio â thalu £151 i weithiwr;
- Mark Gosling, yn masnachu fel Regency Autos, Penarth, Bro Morgannwg, am beidio â thalu £116 i weithiwr.