Marwolaeth Caergybi: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 46 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth pensiynwr yng Nghaergybi brynhawn dydd Mercher.
Cafodd swyddogion o Heddlu'r Gogledd eu galw i dŷ ar Stryd y Farchnad ychydig cyn 16:30 ar ôl derbyn adroddiadau fod dyn 66 oed wedi marw.
Mae'r heddlu'n dweud fod dyn lleol 46 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a'i fod yn cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Caernarfon.
Mae'r heddlu'n parhau a'u hymholiadau.