Ymdrech pâr o Geredigion i achub ci amddifad o'r Eidal
- Cyhoeddwyd

Mae pâr ifanc o Geredigion yn ceisio codi arian i gludo ci achubon nhw o'r môr yn ne'r Eidal yn ôl i'w cartref.
Roedd Hedydd Llewelyn, 25, a Sam Trevor, 30, o Aberporth ar wyliau yn Otranto pan welson nhw gi oedd yn boddi yn y môr ger traeth anghysbell.
Fe neidiodd Hedydd, sy'n achubwr bywyd rhan amser yn ne Ceredigion, i mewn i'r dŵr a chario'r ci mawr oddi yno.
"Roedd y ci mor sychedig nes ei fod wedi mynd i'r môr i gael llymaid i'w yfed", meddai Hedydd, "ond fe lithrodd a syrthio i'r dŵr.
"Ar ôl i mi ei gario i'r creigiau uwchlaw, fe orweddodd yn hollol llonydd. Roedd wedi ymlâdd, ac yn hollol wan.
"Aeth fy mhartner a finnau i siop cyfagos i brynu dŵr a bwyd iddo, ac roedd yr ymateb gawson ni pan welodd e'r bwyd yn anhygoel."
Dywed y pâr bod y ci amddifad wedi creu cartref iddo'i hun y tu ôl i finiau yn y goedwig ger y traeth, a'i fod wedi bod yn cynnal ei hun drwy fwyta o'r biniau.
Yn ôl i Aberporth
Bellach mae Hedydd a Sam yn ceisio codi £2,000 i ddod â'r ci adre i Aberporth. Maen nhw eisoes wedi codi hanner yr arian drwy wefan godi arian torfol.
"Roedd yn rhaid i ni adael y ci yno, gan ein bod ni 'mond ar ddechrau'r gwyliau ac wedi gwneud trefniadau i fynd i Sicily a rhannau eraill o'r Eidal.
"Doedden ni ddim chwaith yn gallu dod o hyd i lety iddo. Ond fe fyddwn ni'n dychwelyd i Otranto ar y 25ain, a da ni'n croesi bysedd fod y ci dal yno."
"Ein bwriad wedyn ydy mynd ag e at filfeddyg i'w frechu a'i drin, cyn mynd ag e at ddynes yn Puglia sydd wedi cytuno i ofalu amdano nes ein bod yn rhoi trefniadau cludo yn eu lle.
"Os bydd popeth yn iawn, ry' ni'n gobeithio ei gael nôl yn Aberporth erbyn diwedd Tachwedd."