Blwyddyn o garchar i ddyn am fygwth lladd heddlu

  • Cyhoeddwyd
Craig Michael HughesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y barnwr bod gan Craig Hughes obsesiwn am ynnau

Mae dyn o Sir y Fflint wedi ei garcharu am 12 mis ar ôl cyfaddef dweud wrth llinell gymorth yn yr Unol Daleithiau ei fod yn bwriadu lladd ei hun a chymaint o blismyn â phosib.

Cafodd Craig Hughes, 33 oed o'r Fflint, ei arestio gan Heddlu Gogledd Cymru ym mis Awst ar ôl sgwrsio gyda chanolfan Hope Line Crisis Centre yn Tennessee.

Fe blediodd Hughes yn euog i ddau gyhuddiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, 16 Hydref.

Yn ôl yr erlyniad, roedd Hughes wedi dweud ei fod yn bwriadu rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd nad oedd wedi digwydd ac yna ymosod arnyn nhw.

Roedd wedi gwneud bygythiadau ddwy waith yn hwyr gyda'r nos pan oedd yn feddw.

'Obsesiwn am ynnau'

Dywedodd yr amddiffyniad nad oedd Hughes wedi bwriadu lladd ei hun ac na fyddai wedi cwblhau unrhyw fygythiad i ladd plismyn.

Clywodd y llys ei fod yn euog o fod â gwn yn ei feddiant yn 2009.

Mae Canolfan Hope Line Crisis Centre yn cynnig cefnogaeth a chwnsela i bobl sydd mewn trafferth.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Niclas Parry y byddai hefyd yn cyflwyno gorchymyn ymddygiad troseddol fyddai'n atal Hughes, sydd, meddai, ag obsesiwn am ynnau, rhag cael cadw unrhyw fath o arf yn y dyfodol.