Cymru i wynebu'r Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar

Wayne Hennessey, Gareth Bale a Joe Ledley Image copyright Huw Evans picture agency

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydden nhw'n wynebu'r Iseldiroedd fis nesaf wrth iddyn nhw ddechrau eu paratoadau ar gyfer Euro 2016.

Bydd y gêm gyfeillgar yn erbyn carfan Danny Blind yn cymryd lle yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener, 13 Tachwedd.

Wrth i Gymru gyrraedd un o'r cystadlaethau mawr am y tro cyntaf ers 57 blynedd, fe orffennodd yr Iseldiroedd yn bedwerydd yn eu grŵp, a ni fydden nhw yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Fe gafodd tîm Chris Coleman eu trechu y tro diwethaf iddyn nhw wynebu'r Iseldiroedd - mewn gêm gyfeillgar cyn Cwpan y Byd 2014.

"Fe wnaethon ni berfformio'n ardderchog y tro diwethaf i ni wynebu'r Iseldiroedd," meddai Coleman.

"Ry'n ni'n edrych 'mlaen i'w croesawu nhw i Gaerdydd."

Image caption Yr Iseldiroedd oedd yn fuddugol y tro diwethaf i'r ddau dîm gyfarfod yn 2014