Feto i ASau Lloegr i gyfreithiau Lloegr

  • Cyhoeddwyd
San Steffan

Mae'r Senedd yn San Steffan wedi pleidleisio o blaid cynnig y llywodraeth i gyflwyno system lle bydd aelodau seneddol o Loegr â'r gair olaf wrth drafod deddfau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.

Cafodd cynnig y llywodraeth ei basio o 312 i 270 er gwaetha' gwrthwynebiad rhai Ceidwadwyr.

O dan y drefn newydd byddai cam ychwanegol yn y broses ddeddfu - rhoi feto i'r aelodau o Loegr ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Loegr yn unig.

Weithiau bydd feto hefyd i aelodau Cymreig lle mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio ar Gymru a Lloegr, er enghraifft ar faterion plismona - maes sydd wedi ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon ond nid i'r Cynulliad.

Dros bum mlynedd y Senedd ddiwethaf, roedd dau fesur yn effeithio ar Loegr yn unig ac 11 yn effeithio ar Gymru a Lloegr.

Yn ystod y ddadl cyn y bleidlais ar y mater, dywedodd Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin, AS Llafur y Rhondda Chris Bryant, bod "perygl go iawn" y gallai hyn arwain at greu dwy haen o aelodau seneddol.

Roedd arweinydd y Tŷ Chris Grayling wedi dweud nad oedd modd cael datganoli i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ac i Loegr beidio cael pwerau o gwbl, ond wrth ateb dwedodd Mr Bryant y byddai gweithredu'r newidiadau yn "siartr ar gyfer chwalu'r undeb".

Dywedodd: "Mae angen llais clir ar Loegr yn y Senedd, ond y ffordd orau o wneud hynny fyddai' creu pwyllgor o ASau o Loegr yn unig yn hytrach na rhoi 'veto' i ASau o Loegr."

Ychwanegodd y byddai'r newidiadau yn gwneud llefarydd y Tŷ yn ffigwr wleidyddol gan y byddai'n rhaid iddo benderfynu pa faterion fyddai'n effeithio ar Loegr yn unig.

Torri addewid?

Wedi'r bleidlais, dywedodd Jonathan Edwards AS ar ran Plaid Cymru:

"Bydd y newid yma'n rhwystro ASau Cymru rhag pleidleisio ar ddedfwriaeth fydd yn cael ei dynodi'n berthnasol i Loegr yn unig, ond allai gael goblygiadau ariannol i Gymru.

"Yn sgil refferendwm yr Alban, addawodd y prif weinidog 'setliad cytbwys' i holl genhedloedd y DU. Mae'r hyn a welsom heddiw yn dra gwahanol i'r addewid yna."