Leanne Wood: Llafur wedi methu â gwella'r gwasaneth iechyd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Leanne Wood yn apelio'n uniongyrchol at gefnogwyr y blaid Lafur mewn araith allweddol yng nghynhadledd Plaid Cymru ddydd Gwener, gan fynnu y byddai'r gwasanaeth iechyd yn ddiogel yn nwylo Plaid.
Bwriad y Blaid yw hoelio'i sylw ar y gwasanaeth iechyd gydag etholiadau'r Cynulliad cwta wyth mis i ffwrdd.
Fe fydd yr arweinydd yn dadlau yn ei haraith bod y blaid Lafur - sydd wedi bod mewn grym ym Mae Caerdydd ers 1999 - wedi methu â gwella'r gwasanaeth.
Fore Gwener, fe wnaeth Ms Wood wrthod rhoi ffigwr ar gyfer cynllun ei phlaid i integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol, ond dywedodd y byddai'r gost yn rhan o ad-drefnu llywodraeth leol.
Mae rhestrau aros ar gyfer triniaeth wedi bod yn bwnc llosg gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe gyhoeddwyd ddydd Iau fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr am aros mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd bellach.
Fe fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn cael gwared ar gostau ar gyfer triniaeth dementia, a hefyd creu cronfa newydd ar gyfer triniaeth canser.
'Dim mwy gwerthfawr'
Dywedodd Ms Wood: "Does dim mwy gwerthfawr i bobl na dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae ein GIG Cymreig yn dioddef methiant Llafur.
"Mae gennym lai o feddygon y pen na'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop, gyda'r Alban yn meddu ar bron i 50% yn fwy o feddygon teulu na ni.
"Mae gennym yr amseroedd aros hwyaf ym Mhrydain i bobl gychwyn triniaeth, weithiau hyd yn oed pan mai'r driniaeth honno yw llawdriniaeth a all achub bywydau.
"Allwch chi ddim ymddiried y GIG bellach i ddwylo Llafur. Gall ymddiried ynddi yn nwylo Plaid Cymru."
Ychwanegodd: "Mae Llafur wedi dod yn dda iawn am ddisgrifio'r problemau mae ein GIG yn wynebu, ond mae'r bobl yn haeddu plaid all wynebu'r her a gwneud y lle ganed y GIG yn oleuni i arwain y ffordd mewn gofal iechyd."
Dim ffigwr
Yn y cyfamser, mae Ms Wood wedi dweud nad ydi hi'n gallu rhoi ffigwr ar gost cynlluniau ei phlaid i integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol.
Dywedodd wrth BBC Radio Wales y byddan nhw'n cael eu "hamsugno i'r ad-drefniant o lywodraeth leol".
Ar raglen Good Morning Wales, dywedodd Ms Wood bod Plaid eisiau "trawsnewid" y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o'i gymharu â'r "dirywiad" dan lywodraeth Lafur.
"Ry'n ni eisiau gweld gwasanaethau iechyd yn cael eu rhedeg mewn ffordd wahanol iawn," meddai.
"Dydw i ddim yn gallu rhoi ffigwr ar gyfer hynny... bydd yna gost, ond rhaid iddo gael ei amsugno gyda'r ad-drefniant o lywodraeth leol.
"Dydy o ddim yn rhywbeth y gallwch chi edrych arno ar ei ben ei hun."
Mae'r BBC ar ddeall taw blaenoriaeth nesaf Plaid Cymru yw sicrhau fod y blaid yn ennill grym yn y Senedd, yn hytrach na galw am refferendwm annibyniaeth i Gymru - sef nod cyfansoddiadol y blaid.
Ar hyn o bryd trydedd blaid y Senedd yw Plaid Cymru, gydag 11 sedd o'i gymharu â 30 y blaid Lafur ac 14 y Ceidwadwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2014