Network Rail yn atal pobl rhag defnyddio maes parcio
- Cyhoeddwyd

Mae ffrae wedi codi rhwng trigolion sy'n byw ger gorsaf drenau Cyffordd Dyfi yn y canolbarth, a chwmni Network Rail.
Dyw cerbydau ddim yn cael defnyddio maes parcio'r orsaf gan fod giât fawr ar y ffordd yno wedi'i chloi.
Mae'r bobl leol yn fodlon defnyddio'r lôn, ond dyw hi ddim ar agor gan nad ydi hi'n ddiogel, meddai Network Rail.
Mae ymgyrchwyr yn cyhuddo'r cwmni o fethu yn eu dyletswyddau ac yn galw arnyn nhw i dalu am wella'r ffordd.
Yn ôl Network Rail, mae'n rhaid asesu gwelliannau yn ofalus gan ystyried nifer y teithwyr fyddai'n elwa.
'Cyfrifoldeb'
Mae pob trên yn y canolbarth yn stopio yng ngorsaf Cyffordd Dyfi, ond dim ond tua tri o bobl sy'n ei ddefnyddio bob dydd. Fe fyddai'r nifer yn cynyddu'n sylweddol pe bai'r giât ar agor, meddai ymgyrchwyr.
Ychydig dros gilomedr yw'r pellter o'r pentref agosaf i Gyffordd Dyfi, ond mae tyllau yn y llwybr a does dim golau arni.
Dywedodd cynghorydd cymuned Ysgubor y Coed, Delyth Griffiths, sy'n ymgyrchu dros wella'r ffordd: "Yr unig ffordd i gyrraedd yr orsaf yw i gerdded ac mae hi'n wâc o ryw 20 munud.
"O'r blaen gyda'r henoed a gyda theuluoedd a phlant ifanc ro nhw'n gallu mynd yn eu ceir a mynd yn syth i'r orsaf.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi gwario tua £1 miliwn i wella'r orsaf ac mae platfform hir, mae'n hyfryd - mae'r adnoddau yn dda ond i ni methu cyrraedd o mewn ceir."
Yn ôl arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, mae gan Network Rail gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau mynediad i bobl anabl.
Ychwanegodd: "Dydi hynny ddim yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd. Byddwn i yn gofyn iddyn nhw edrych yn fanwl ar ofynion y ddeddf."
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail eu bod wedi "ymrwymo i wella mynediad mewn gorsafoedd" ac i "ddarparu gwelliannau".