Aled Sion Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Aur arall i Aled

22 Hydref 2015 Diweddarwyd 22:00 BST

Roedd o'n un o sêr y Gemau Paralympaidd yn Llundain a chyda llai na blwyddyn nawr tan gemau Rio mae Aled Sion Davies o Ben-y-bont ar Ogwr yn mynd o nerth i nerth.

Fe gafodd y Cymro ei i goroni'n bencampwr byd unwaith eto ddydd Iau am daflu'r pwysau - yr aelod cynta' o dîm Prydain i ennill medal aur draw yn Doha, a hynny dim ond deg wythnos ar ôl cael llawdriniaeth.

Adroddiad Geraint Thomas.