Llofruddiaeth Alec Warburton: Dyn yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Alec Warburton a David Craig Ellis
Disgrifiad o’r llun,
Mae David Craig Ellis (dde) wedi'i gyhuddo o lofruddio Alec Warburton

Mae dyn 40 oed wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe wedi'i gyhuddo o lofruddio ei landlord 59 oed.

Fe gafodd corff Alec Warburton, o ardal Sgeti yn Abertawe, ei ddarganfod ger Dolwyddelan yng Nghonwy ar 20 Medi.

Cafodd David Craig Ellis ei arestio yn Iwerddon ddau ddiwrnod ynghynt.

Yn y llys fore Gwener, fe siaradodd Mr Ellis i gadarnhau ei enw a'i oed yn unig.

Clywodd y llys ei fod wedi'i gyhuddo o lofruddio Mr Warburton rhyw dro rhwng 30 Gorffennaf a 7 Awst.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.