Gohirio cwest i farwolaeth babi o Bontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth babi pum mis oed wedi ei ohirio.
Bu farw Sunaria Hamid-Howells o Bontypridd ym mis Rhagfyr 2012, wedi iddi dorri asgwrn yn ei phenglog.
Fe glywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd ei bod wedi syrthio oddi ar gadair siglo bedwar diwrnod cyn ei marwolaeth, ond dywedodd arbenigwr ei bod yn annhebygol y byddai hynny wedi achosi'r anaf angheuol.
Ddydd Gwener, cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cyfeirio'r mater at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.
Fe ddywedodd dirprwy-grwner Caerdydd a'r Fro, Christopher Woolley: "Bydd angen i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu ar y camau nesaf yn yr achos hwn, ac mae'n rhaid i lys y crwner barhau i fod yn gwbl niwtral."
Amlinellu'r dystiolaeth
Ddydd Mercher, fe amlinellodd Mr Woolley dystiolaeth gan rieni'r ferch fach, gan ddweud bod y babi wedi "mynd yn llipa" wrth i'w thad, Dilshad Hamid, ei bwydo.
Dywedodd Mr Woolley bod mam Sunaria, Katherine Howells, wedi galw ar gymydog am gymorth, a dywedodd parafeddyg wrth y gwrandawiad bod y babi'n dioddef o ffitiau wrth iddi dderbyn triniaeth frys.
Fe gafodd ei chludo i uned gofal dwys y plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw ar Nos Galan.
Darllenodd Mr Woolley tystiolaeth gan Dr Iyad Al-Muzaffar, yr ymgynghorydd babanod newydd-anedig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Fe ddywedodd bod sgan wedi dangos bod Sunaria wedi dioddef gwaedlif ar yr ymennydd oherwydd yr anaf i'w phenglog.
Ychwanegodd Dr Al-Muzaffar: "Mae difrifoldeb yr anaf yn awgrymu digwyddiad difrifol.
"Yn fy marn i, dyw'r hanes a roddwyd am Sunaria a'r gadair siglo ddim yn egluro ei chyflwr difrifol ar 30 Rhagfyr."