Gwen Elin yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd
Gwen ElinFfynhonnell y llun, Iolo Penri

Cafodd Gwen ei dewis o blith chwech o bobl ifanc fu'n perfformio ar lwyfan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, nos Sul.

Mae Gwen, o Benllech ar Ynys Môn, bellach yn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd ar S4C fel y cymeriad Lisa ar Rownd a Rownd.

Roedd y noson yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C.

Yn ogystâl â'r Ysgoloriaeth mae na wobr ariannol o £4,000 i'w defnyddio i ddatblygu ei thalent i'r dyfodol.

'Profiad anhygoel'

Dywedodd Gwen: "Mi oedd yn brofiad anhygoel cystadlu heno ac mi oedd pawb yn ffantastig - doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl!

"Mae'n deimlad hollol bizare a allai i ddim credu mod i wedi ennill!"

Ychwanegodd ei bod yn bwriadu defnyddio'r arian i ddilyn cwrs ôl-radd mewn cerdd a drama unai mewn coleg yn Llundain neu Gaerdydd.

Cafodd y chwech eu dewis o blith cystadleuwyr mwyaf addawol holl gystadlaethau unigol categorïau dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch eleni.

Stifyn Parri, Gwawr Owen, Gwenan Gibbard, Siân Teifi a Catrin Lewis Defis oedd ar y panel dewis, a nhw hefyd oedd a'r dasg o benderfynu pwy fyddai'n ennill yr ysgoloriaeth ar y noson.

'Safon rhagorol'

Dywedodd Stifyn Parri: "Mi oedd y safon yn rhagorol heno ac mi allem ni fod wedi rhoi yr ysgoloriaeth i un o'r chwech ond perfformiad Gwen aeth a hi - mi oedd rhywbeth hudolus am ei pherfformiad wnaeth i'r gynulleidfa eistedd ar flaen eu seddi.

"Mi oedd hi yn anodd dod i benderfyniad ac mi oedd gan bawb eu rhinweddau ond mi oeddem yn unfryd ein barn mai Gwen oedd yn haeddu yr ysgoloriaeth eleni."

Y chwe chystadleuydd eleni oedd:

  • Steffan Rhys Hughes o Aelwyd Menlli, Dinbych;
  • Rhodri Prys Jones o Aelwyd Penllys, Maldwyn;
  • Sarah-Louise Jones, Aelod Unigol o Gylch Rhondda, Cymoedd Morgannwg;
  • Meinir Wyn Roberts, Aelod Unigol o Gylch Arfon, Eryri;
  • Alys Mererid Roberts o Aelwyd Llundain, Tu Allan i Gymru;
  • Gwen Elin o Aelwyd yr Ynys, Môn.
Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru