Tîm chwilio newydd ym Môn i leihau pwysau ar dimau chwilio cyfagos

  • Cyhoeddwyd
achub mynydd generic

Mae tîm chwilio newydd yn cael ei greu yn Sir Fôn er mwyn ceisio lleihau`r pwysau ar griwiau chwilio mynydd cyfagos.

Fe ddaw'r cam wrth i Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu`r Gogledd rybuddio y gallai twristiaeth antur yn ogystal â chwilio am bobol sydd ar goll, olygu mwy o alwadau arnyn nhw.

Dywed Gareth Pritchard, sydd hefyd yn bennaeth chwilio ac achub yr heddlu ar draws Cymru a Lloegr, ei fod wedi bod yn trafod dros yr haf, ffyrdd o sicrhau seiliau ariannol mwy cadarn i'r timau yma.

Mae gan Gymru 13 o dimau mynydd, iseldir ac ogofeydd, i gyd yn wirfoddolwyr, ac eleni mae nhw wedi bod yn hynod o brysur, gyda thîm achub mynydd Eryri yn cael eu galw allan 34 gwaith ym mis Awst yn unig.

Tîm newydd ym Môn

Mae rhaglen Eye on Wales BBC Cymru wedi clywed bod cynlluniau ar y gweill i greu tîm newydd ym Môn fyddai'n ysgafnhau'r baich.

"Mae hyn yn rhywbeth rhesymol i neud", medd Phil Benbow, cadeirydd Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru - sy'n cynnwys chwe thîm achub mynydd.

"Os allwn ni sefydlu criw chwilio ar Ynys Môn fyddai'n gallu chwilio'r iseldir, fyddai gyda'r un sgiliau â'r timau erill yn y gogledd, ond eu bod yn arbenigwyr ar chwilio yna fyddai hynny yn ein helpu ni a'r heddlu."

Mae Mr Pritchard yn dweud ei fod yn annog criwiau chwilio ac achub ar draws Cymru a Lloegr i fod yn fwy proffesiynol yn y ffordd mae nhw'n codi arian.

"Mae nhw'n casglu lot o arian drwy ysgwyd bwcedi ar fynyddoedd ar benwythnosau prysur ac mae hynny yn dod a thipyn o incwm i mewn, ond mae'r gofynion ar y timau yn cynyddu.

"Mae angen i'r cyfarpar fod yn arbenigol, ac mae'n gyfarpar drud... mae rhai timau achub o'r gogledd yn mynd i'r Alban i hyfforddi mewn tywydd gwael, mae hyn i gyd yn costio arian."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Gareth Pritchard (canol) yn goruchwylio chwilio ac achub ar draws Cymru a Lloegr

Arian cyhoeddus

Mae rhai timau yn cael peth arian cyhoeddus, ers mis Ebrill eleni mae nhw wedi cael hawlio Treth ar Werth yn ôl, wrth i Lywodraeth Cymru hefyd gyfrannu £25,000 y flwyddyn i helpu tuag at rai costau iechyd a diogelwch.

Mae criwiau yng Nghymru hefyd wedi cael rhan o`r £250,000 o Lywodraeth y DU i 75 o dimoedd ar draws Prydain ar gyfer hyfforddi a chyfarpar.

Bydd y rhaglen hefyd yn clywed bod tîm chwilio ac achub Dyffryn Ogwen wedi dechrau talu 30c y filltir i aelodau'r tîm sy`n cael eu galw allan, er mwyn ceisio sicrhau bod na ddim cost i'r rhai sy'n cael eu galw allan yn gynyddol yn ystod yr wythnos.

Yn ôl y tîm achub mynydd, mae nhw'n amcangyfrif bod angen codi £60,000 y flwyddyn i gwrdd â'u costau.

Eye on Wales, BBC Radio Wales, dydd Sul, 12:30pm.