Farage: Cymru'n cael 'dêl sâl' o'r Undeb Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Nigel Farage
Disgrifiad o’r llun,
Nigel Farage yn ymweld â ffatri e sigarennau yn Abertawe

Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage, wedi mynnu bod Cymru yn cael "dêl sâl" o aelodaeth Prydain o`r Undeb Ewropeaidd.

Yn siarad wrth iddo ymweld ag Abertawe fel rhan o'i daith "Dywedwch na i'r UE", fe wrthododd y syniad bod Cymru yn elwa wrth fod yn rhan o'r undeb.

Roedd Mr Farage yn ymweld â ffatri e sigarennau cyn rali yn ddiweddarach.

Ond yn ôl Aelod Cynulliad Llafur Dwyrain Abertawe, Mike Hedges, mae sawl diwydiant yn ddibynnol iawn ar yr UE. Mi fyddai'n "gam mawr i'r tywyllwch" pe bai'r Deyrnas Unedig yn gadael, meddai.

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi addo refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd cyn diwedd 2017.

CYFLE EURAIDD

Dywedodd Mr Farage wrth y BBC: "Mae Cymru yn cael dêl sâl o Ewrop.

"Mae'r diwydiant pysgota yn cael ei ddinistrio, mae'r diwydiant dur yn cael niwed difrifol, ac mae busnesau bach fel hyn o dan fygythiad o fynd i'r wal, a does dim byd all gwleidydd yn y Cynulliad neu yn San Steffan wneud am y peth."

Fe ddywedodd bod y DU wedi "trosglwyddo rheolaeth o'r diwydiannau pysgota, ffermio a busnes i Frwsel".

Ychwanegodd: "Beth i ni'n ddweud yw, mae`r refferendwm yma yn gyfle euraidd i gymryd rheolaeth yn ôl o'n bywydau a bod yn feistr ar ein dyfodol."

Dywedodd Mr Farage wrth gynulleidfa o tua 400 o bobl yn Abertawe bod y refferendwm yn gyfle "unwaith mewn oes".

Ni ddylai bobl wrando ar yr "elitaidd" sydd o blaid yr Undeb Ewropeaidd, sy'n cynnwys teulu'r Arglwydd Kinnock, meddai.

Ychwanegodd y byddai pobl yn gallu cymryd "cyfrifoldeb yn ôl dros eu bywydau" drwy wrthod yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mynnodd Mr Hedges y byddai hi o les i Gymru aros o fewn yr UE.

"I ni wedi dod yn rhan ohono, mae nifer o ddiwydiannau a busnesau yn ddibynnol ar y gymuned Ewropeaidd," meddai.

"Fe bleidleisiais i ddod o`r Undeb Ewropeaidd y tro diwethaf, ond fe fyddai hynny yn gam mawr i`r tywyllwch pe bai ni'n penderfynu gwneud hynny nawr."