Marwolaeth milwr: Dim bai ar yr heddlu, yn ôl ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Roedd gweithredoedd yr heddlu yn dilyn marwolaeth dyn ar ôl ei roi mewn cyffion yn "rhesymol" ac yn "gymesur", yn ôl ymchwiliad.
Bu farw Morgan Owen, o Fwcle, ym mis Rhafgyr 2011. Roedd yr heddlu wedi defnyddio taser arno ddau ddiwrnod cyn hynny.
Fe wnaeth Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) gefnogi gweithredoedd heddlu Gogledd Cymru.
Daeth cwest i'r casgliad bod marwolaeth Mr Owen, 24, yn un ddamweiniol o ganlyniad i gymryd cocên.
Fe glywodd y cwest yn Abergele bod Mr Owen wedi dioddef ataliad i'r galon yn dilyn cymryd y cyffur.
Fe lewygodd ar ôl cael ei ddal gan aelodau o'r cyhoedd am gicio ceir ar Ffordd Fferm yn yr ardal.
Galwyd yr heddlu ac fe gafodd ei roi mewn cyffion. Ond fe sylweddolodd swyddogion bron yn syth nad oedd ganddo guriad calon ac roedd ymdrechion i'w adfer yn aflwyddiannus.
Roedd y cwest yn canolbwyntio ar ymddygiad yr heddlu tuag ato.
Ymchwiliodd yr IPCC mewn i nifer o gwynion gan deulu Mr Owen ynghylch sut wnaeth yr heddlu ddelio gyda digwyddiadau yn ymwneud ag o yn y diwrnodau cynt.
Daeth yr IPCC i'r casgliad bod gweithredoedd yr heddlu, gan gynnwys defnyddio Taser, yn angenrheidiol ac yn briodol.