Bysys Padarn: Dyn yn cyfadde cadw cyfrifion ffug
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-weithiwr gyda chwmni bysys yn Llanberis wedi cyfadde cadw cyfrifon ffug a achosodd i Gyngor Gwynedd golli arian.
Mae'n dilyn ymchwiliad i fusnes Bws Padarn yn Llanberis.
Fe gollodd 84 o bobol eu swyddi wrth i'r cwmni ddirwyn i ben ym mis Mai 2014.
Cafodd Darren Price, 45 oed o Lanrug ger Caernarfon, ei ryddhau ar fechnïaeth cyn cael ei ddedfrydu.
Mae disgwyl i ail ddyn wynebu achos llys yn ymwneud â thwyll honedig gwerth cannoedd o filoedd o bunnau.