Merched Norwy 4 - 0 Merched Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae gobeithion merched Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2017 wedi cael ergyd.
Fe gollodd Cymru o 4 - 0 i Norwy yn Alesund.
Mae Cymru nawr ar waelod Grŵp 8 ar ôl y ddwy gêm agoriadol. Fe gollodd hi'r gyntaf 3-0 yn erbyn Awstria.
Dywedodd rheolwr Cymru, Jayne Ludlow, wrth BBC Radio Wales:
"Dydyn ni ddim yn canolbwyntio ar y canlyniad. Rydym wedi dod yma yn erbyn tîm da iawn sydd yn un o dimau gorau Cymru ac rydym wedi cystadlu."