Dreigiau 19-12 Treviso
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Mae'r Gleision wedi cipio eu hail fuddugoliaeth o'r tymor drwy guro Treviso yn y Pro12.
Roedd cais hanner cyntaf Nic Cudd yn ogystal â chicio perffaith Jason Tovey yn ddigon i dîm Lyn Jones i hawlio'r pedwar pwynt yn Rodney Parade.
Roedd y Dreigiau wedi colli'r ddwy gêm flaenorol, gyda'r unig fuddugoliaeth arall o'r tymor yn dod yn erbyn Zebre.