Plaid Cymru: Creu llywodraeth ag 20 sedd?
- Cyhoeddwyd

Gallai ennill 20 sedd yn y cynulliad alluogi Plaid Cymru i ffurfio llywodraeth Cymru, yn ôl un AC.
Yng nghynhadledd y blaid yn Aberystwyth, fe ddywedodd Rhun ap Iorwerth y gellid ffurfio llywodraeth gydag "oddeutu 20" sedd.
Ar hyn o bryd trydedd blaid y Senedd yw Plaid Cymru, gydag 11 sedd o'i gymharu â 30 y blaid Lafur ac 14 y Ceidwadwyr. Mae y Democratiaid Rhyddfrydol bump sedd.
Er nad oedd yn fodlon gosod targed ar nifer y seddi mae Plaid Cymru yn gobeithio eu hennill fis Mai, roedd Rhun ap Iorwerth yn awyddus i beidio canolbwyntio ar glymbleidiau, gan adael y sgwrs honno tan ar ôl yr etholiad.
Chwe mesur iechyd
Parhau i ymosod ar record y blaid Lafur ar y gwasanaeth iechyd mae Plaid Cymru ddydd Sadwrn, gan fynnu na ddylid derbyn "mwy o esgusodion" dros amseroedd aros hir a thargedau wedi'u methu.
Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones yn cyflwyno chwe mesur ar gyfer gwella'r gwasanaeth.
Y cynlluniau yw:
- sefydlu canolfannau diagnostig arbenigol,
- gwella mynediad i wasanaethau iechyd meddwl,
- treth ar ddiodydd melys,
- recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol,
- dileu'r drefn bresennol o Fyrddau Iechyd Lleol,
- integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r blaid wedi rhoi blaenoriaeth i bolisi iechyd yn ystod eu cynhadledd, gan ddefnyddio'u polisiau fel sail apêl i bleidleiswyr Llafur i "edrych eto" at Blaid Cymru.
Cyllideb amgen
Fore Gwener, fe wnaeth Leanne Wood wrthod rhoi ffigwr ar gyfer costau eu polisi iechyd, mewn cyfweliad â'r BBC. Mae Plaid Cymru wedi ymroi i gyhoeddi cyllideb amgen cyn etholiadau'r Cynlluniad fis Mai nesaf.
Fe ddywed Elin Jones: "Ar gyfer mis Mai nesaf, mae gan Blaid Cymru'r polisïau a'r blaenoriaethau i gryfhau ein Gwasanaeth Iechyd. Ni ellir gadael i record wael Llafur ar iechyd barhau. Mae Gweinidogion Llafur wedi bod yn amharod i gymryd y penderfyniadau mawr ar y Gwasanaeth Iechyd ac yn methu cael y penderfyniadau bach yn iawn.
"Maent wedi treulio llawer gormod o amser dros y bedair blynedd diwethaf yn beio Llywodraeth San Steffan am ddiffyg cyllid. Dyma fy neges iddynt - dim mwy o esgusodion.
"Dylid beirniadu Llafur ar yr hyn maent wedi methu ei gyflawni gyda'r pwerau a'r gyllideb sydd ar gael iddynt, a byddwn ni'n cael ein beirniadu ar yr hyn yr ydym yn addo ei gyflawni gyda'r pwerau a'r gyllideb ar gael i ni."
Cymro ar bapur punt?
Yn ystod y gynhadledd ddydd Sadwrn, fe alwodd aelodau am gael Cymry enwog ar bapurau punt yn y DU.
Yn ôl David Rees, ymgyrchydd o Gaerffili, mae'r sefyllfa bresennol yn "annheg".
Fe ddywedodd "nad yw unrhywun o'r ffigyrau mae nhw wedi eu dewis hyd yn hyn wedi dod o Gymru.
"Mae'r Alban a hyd yn oed Iwerddon wedi eu cynrychioli, ond does neb o Gymru wedi cael y fraint."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2015