Gwrthdrawiad: Teithiwr wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae teithiwr mewn car wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Ynysowen, Merthyr Tudful yn oriau mân bore Sadwrn.

Roedd car Renault Laguna du yn teithio ar hyd yr A4054 i gyfeiriad Merthyr Tudful tua 02.40 pan darodd yn erbyn nifer o geir wedi eu parcio ger cyffordd.

Fe gafodd y gyrrwr ac un teithiwr eu cludo i Ysbyty'r Tywysog Charles yn y dref gydag anafiadau difrifol, a bu farw teithiwr arall.

Bu'r ffordd ynghau am bump awr wedi'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth, ac yn gofyn i unrhywun all helpu, gysylltu drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod 1500394052.