Bwrdd iechyd: 'Ddim yn saff'

  • Cyhoeddwyd
Parchedig Hywel Meredydd Davies
Disgrifiad o’r llun,
Fe roddodd y Parchedig Hywel Meredydd Davies y gorau i fod yn aelod o'r bwrdd ym mis Mawrth 2015

Dydi bwrdd iechyd mwya' Cymru "ddim yn saff", yn ôl cyn-aelod.

Fe ddywedodd y Parchedig Hywel Meredydd Davies, oedd yn aelod annibynnol o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ei fod yn poeni y byddai rhai uwch-reolwyr yn gadael eu swyddi wedi'r cyhoeddiad y bydd y bwrdd yn parhau i fod mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd.

Daw ei sylwadau wedi i lythyr at y Prif Weithredwr dros-dro, Simon Dean, ddatgelu'r rhesymau dros gadw'r bwrdd mewn mesurau arbennig.

Yn y llythyr, fe ddywedodd penaethiaid Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Cymru fod "y bwrdd iechyd yn parhau i fod angen cymorth gydag agweddau sylfaenol llywodraethiant, arweiniad a chynllunio gwasanaethau, sy'n codi cwestiynau am allu'r sefydliad i gadw momentwm wedi i'r gefnogaeth allanol ddirwyn i ben."

Mae nhw'n cyfaddef bod "datblygiadau positif wedi bod mewn nifer o adrannau, a gellir adeiladu ar hynny."

Fodd bynnag, mae'r llythyr yn nodi nifer o broblemau sydd angen eu datrys. Mae'n nodi fod gwasanaethau mamolaeth "dan straen annioddefol."

"Allwn ni ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd dod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy, a hynny'n gynnar, i'r problemau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd o ran gwasanaethau mamolaeth."

Mae'r llythyr hefyd yn pryderu am aelodaeth y bwrdd, gan ddweud fod "nifer y cyfarwyddwyr corfforaethol â rôl hanfodol yn mynd yn fwyfwy ansefydlog."

'Blerwch cyffredinol'

Wrth ymateb i'r llythyr, fe ddywedodd y Parchedig Hywel Meredydd Davies ei fod yn amau fydd "arweiniad cryf" yn bosib o fewn mesurau arbennig.

"Mae angen sicrhau arweinyddiaeth y corff, a dw i ddim yn credu y gwnaiff hyn ddenu arweinydd cryf am gyfnod arall o ddwy flynedd.

"Dw i'n gofidio - yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ar gyfer y penderfyniad - y bydd nifer o arweinwyr uchel y bwrdd yn gadael hefyd.

"Yn sicr, mae'r gwaith yna yn sôn am ddiffyg trefn, diffyg atebolrwydd a blerwch cyffredinol.

"'Di o ddim yn saff. Dydi'r bwrdd ddim yn saff."

'Cwbl hyderus'

Yn ôl prif weinidog Cymru, gall cleifion fod yn "gwbl hyderus" eu bod yn cael y gofal y maen nhw'n ei haeddu.

Wrth ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd ddydd Gwener, dywedodd Carwyn Jones nad oes unrhyw broblem gyda safonau na diogelwch yn yr ardal.

Pan ofynnwyd pa mor hyderus y gall gleifion deimlo, dywedodd Mr Jones: "Yn gwbl hyderus. Ond roedd angen i ni fod yn hyderus bod y bwrdd yn symud i'r cyfeiriad cywir. Doedden ni ddim.

"Dyna pam cafodd y bwrdd ei rhoi dan fesurau arbennig. Dyna pam bod gyda ni'r lefel gywir o gefnogaeth yma. Mae 'na benderfyniad yma i fynd a'r bwrdd i'r cyfeiriad cywir.

"Does dim awgrym bod problem gyda diogelwch. Does dim awgrym bod problem gyda safon y driniaeth."