Damwain Cricieth: Anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed wedi ei anafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd fore Sadwrn.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A497 Ffordd Penamser yng Nghricieth toc cyn 09.30.
Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Rwan, mae'r heddlu'n awyddus i ganfod rhagor o wybodaeth am gerbyd Mitsubishi L200 Warrior 4x4 du, oedd yn cael ei yrru rhwng Chwilog a Chricieth cyn y ddamwain.