UB40: Tramshed Caerdydd 'ddim yn barod'
- Cyhoeddwyd

Mae cyngerdd UB40 wedi cael ei symud i leoliad arall yng Nghaerdydd, oriau cyn i'r band berfformio.
Dyw adeilad y Tramshed yn ardal Grangetown y brifddinas ddim yn barod, ac felly mae'r band yn perfformio yn Neuadd Fawr Undeb Myfyrwyr.
Mae'r adeilad y yn cael ei wedd-newid i gynnwys sinema, ardal berfformio, caffi a bar.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Tramshed bod "oedi wedi bod yn ystod y manion munud ola'".
Ychwanegodd fod y tîm wedi gweithio "24/7" i geisio gorffen y gwaith mewn pryd.
Fe ddywedodd fod trafnidiaeth ar gael yn rhad ac am ddim i unrhywun sy'n cyrraedd Tramshed heno.
Yn ôl y band, mae nhw "wedi rhyddhau" fod y cyngerdd yn mynd rhagddo, gan fod pob tocyn wedi eu gwerthu.
Fe wrthododd y llefarydd ar ran Tramshed gadarnhau fydd yr oedi yn effeithio ar gyngherddau yno yn ystod yr wythnosa nesa'.