Tanau ceir yn Wrecsam 'yn fwriadol'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar droed wedi nifer o danau'n ymwneud â cheir yn Wrecsam fore Sadwrn.
Mae saith o geir wedi eu heffeithio ac mae swyddogion yn credu i'r tanau gael eu cynnau'n fwriadol.
Fe ddywedodd Kevin Jones o'r tîm sy'n ceisio lleihau achosion o danau bwriadol: "Mae hwn yn fater difrifol, nid yn unig i berchnogion y ceir, ond fe allai hyn beryglu bywydau."
Gall unrhywun â gwybodaeth am yr achosion gysylltu â'r heddlu ar 101 a nodi'r cyfeirnod S162991.