Gweilch 16-21 Connacht
- Cyhoeddwyd

Fe gollodd y Gweilch y bedwaredd gêm o'r bron y tymor hwn yn y Pro12 yn erbyn Connacht yn y Liberty bnawn Sadwrn .
Dyw'r ymwelwyr heb guro'r Gweilch gartref ers mis Tachwedd 2004.
Fe ddechreuodd pethau'n addawol i'r tîm cartref gyda chic gosb gan Sam Davies a chais i Dan Baker, ond Connacht oedd ar y blaen ar yr hanner wedi dwy gic gosb a chais.
Daeth cais arall i'r ymwelwyr - Bundee Aki'n croesi - ac er i Justin Tipuric ymateb gyda chais, fe roddodd cic gan Craig Ronaldson y fuddugoliaeth i'r Gwyddelod.