Cofio cyfnod Kate Roberts yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae plac wedi'i ddadorchuddio ar y tŷ lle bu'r awdures Kate Roberts yn byw yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd.
Fe dreuliodd Kate Roberts ei phlentyndod yn ardal Rhosgadfan yn sir Gaernarfon, ac yn ddiweddarach fe ymgartrefodd yn Ninbych.
Ond am ddwy flynedd rhwng 1929 a 1931 bu'n byw yn Rhiwbeina yng ngogledd Caerdydd.
Penderfynodd Cymdeithas Ddinesig Rhiwbeina osod plac glas ar y tŷ, er mwyn cofio'r cyfnod pan y bu 'brenhines ein llen' yn byw yn yr ardal.
Dywedodd is gadeirydd y Gymdeithas, Lyn Owen, "Mae'n bwysig i ddod a gwybodaeth i bobl am hanes eu hardal."
"Mae nifer o bobl wedi dod i fyw yma, ac wedi gwneud eu marc."
Y trydydd plac
Y plac ar gyn-gartref Kate Roberts yw'r trydydd mae'r Gymdeithas Ddinesig wedi'i osod.
Eisoes mae cofeb ar y tŷ lle bu sylfaenydd Amgueddfa Werin Cymru, Iorwerth Peate, yn byw.
Mae plac hefyd ar hen gartref Edgar Chapell o Ystalyfera, oedd yn un o sylfaenwyr mudiad y gardd-bentref.
Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, oedd yn gyfrifol am ddadorchuddio'r plac ar gartref Kate Roberts yn Lon Isa fore Sadwrn.
"Mae'n dda iawn bod pobl yn Rhiwbeina - rhan o Gaerdydd - yn deall pwysigrwydd Kate Roberts'" meddai.
Mae Cymdeithas Ddinesig Rhiwbeina yn gobeithio gosod placiau ar gartrefi nifer o enwogion eraill fu'n byw yn y pentref am gyfnod, gan gynnwys yr actores Rachel Thomas ac arweinydd diwygiad 1904-1905, Evan Roberts.