Priestland: Rhoi'r gorau i chwarae i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Rhys Priestland am gymryd seibiant o'r gêm ryngwladol er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa yng Nghaerfaddon, yn ôl prif hyfforddwr y clwb, Mike Ford.
Brynhawn Sadwrn, fe ddywedodd Ford y bydd y maswr yn rhoi'r gorau i chwarae i Gymru "am 18 mis, o leiaf".
Fe ymunodd Priestland â'r clwb - sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr - wedi i daith Cymru yng Nghwpan y Byd ddod i ben yn erbyn De Affrica yn y rownd go-gyn-derfynol.
Mae wedi ennill 40 cap i Gymru, ac fe ymunodd â Chaerfaddon wedi 10 mlynedd yn chwarae i'r Scarlets.
'Ymdrech ac amser'
"'Dy ni eisiau Rhys gyda ni," meddai Ford, "felly mae e am gymryd seibiant o'r gêm ryngwladol am y 18 mis nesa'.
"Ei ddewis e ydy hwn, mae e eisiau datblygu yma, setlo yng Nghaerfaddon a rhoi llawer o ymdrech ac amser i fod y chwaraewr gorau posibl.
"Pan fydd George [Ford, maswr Lloegr a mab Mike Ford] bant ar gyfer y Chwe Gwlad, Rhys fydd ein 10 ni.
"Mae 'na dal ddwy flynedd tan Cwpan y Byd wedi'r 18 mis 'ma, a mae e'n dal i fod yn ddigon ifanc, os yw e'n penderfynu parhau i chwarae i'w wlad, fe gaiff e."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2015