Bristol Rovers 1-4 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Bristol Rovers 1-4 Casnewydd
Mae Casnewydd wedi dringo o waelod yr Ail Adran, gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Brstol Rovers.
Roedd hi'n ddechrau perffaith i'r alltudion, wrth i Tom Parkes benio'r bêl i gefn y rhwyd yn yr hanner cyntaf.
Rhwydodd Zak Ansah ddwywaith i ddyblu mantais Casnewydd, gyda Tommy O'Sullivan - sydd ar fenthyg o Gaerdydd - yn selio'r fuddugoliaeth ar ôl cipio'r pedwaredd gôl.