Wrecsam 0-1 Gainsborough Trinity
- Cyhoeddwyd
Wrecsam 0-1 Gainsborough
Mae breuddwydion Wrecsam o gyrraedd rownd cyntaf cwpan FA Lloegr ar ben, ar ôl colli 1-0 yn erbyn Gainsborough ar y Cae Ras.
Gôl Nathan Jarman wedi 73 munud seliodd y fuddugoliaeth i'r tîm sydd 24 safle' is na'r Dreigiau.
Wedi'r chwiban ola' roedd yna ddrwg-deimlad ymysg cefnogwyr Wrecsam, a'r dorf yn bŵ-ian.