Damwain Porthcawl: Dyn 24 oed yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i wrthdrawiad y tu allan i glwb nos adawodd 13 o bobl wedi'u hanafu wedi cyhuddo dyn 24 oed.
Fe gafodd y bobl eu cymryd i'r ysbyty wedi i gar Audi A4 daro ardal ysmygu tu allan i glwb nos Streets ym Mhorthcawl am tua 01:00 fore Sul.
Mae Ryan Ford wedi'i gyhuddo o achosi anaf difrifol wrth yrru, gyrru heb yswiriant, peidio â darparu sampl ar gyfer profion, gyrru dan ddylanwad alcohol a lladrad.
Fe wnaeth Mr Ford ymddangos yn Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr fore Llun, ble cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fis nesaf.
Aeth parafeddygon â 10 o bobl rhwng 17 a 43 oed i'r ysbyty gydag anafiadau, ac aeth tri arall i'r uned frys.
Mae menyw 18 oed hefyd yn helpu Heddlu'r De gyda'u hymchwiliad.
Cyflwr difrifol
Yn ôl datganiad, fe gafodd saith dyn a chwe menyw eu hanafu.
Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg bod tri o'r rheiny wedi cael mynd adref o'r ysbyty eisoes.
Mae chwech o bobl yn parhau i fod yn Ysbyty Tywysoges Cymru gydag anafiadau difrifol, ond mewn cyflwr sefydlog.
Fe gafodd pedwar eu cludo i Ysbyty Treforys - dau ddyn 18 oed, menyw 21 oed a menyw 38 oed.
Mae dau o'r rheiny mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, a dau arall wedi derbyn triniaeth.
Fe ddywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Valentine fod "y tri gwasanaeth brys wedi eu hanfon i'r digwyddiad er mwyn cydweithio i ymateb yn gyflym".
Yn ôl Nick Smith o'r gwasanaeth ambiwlans, fe anafodd yr holl bobl eu coesau "a does neb mewn cyflwr allai beryglu eu bywyd".