Farage: 'Cymru yn flaenoriaeth i Ukip'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Ukip, Nigel Farage wedi dweud y bydd ei blaid yn ennill seddi yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesa', ond fydd o ddim yn ymgeisio am sedd.
Ar raglen Sunday Politics Wales, fe ddywedodd Mr Farage fod Cymru yn flaenoriaeth i'r blaid, ac y bydden nhw'n chwarae "rôl ymarferol" petaen nhw'n ennill seddi yn 2016.
"Dyw'r bobl sy'n ymgyrchu am seddi yn y Cynulliad ddim yn gwneud hynny fel protest - 'dy ni'n gwneud hyn gyda meddylfryd bositif, a 'dy ni am wneud ein gorau i'r bobl yng Nghymru sydd am ein hethol".
Ychwanegodd na fyddai'n ymgeisio am sedd:
"Mae'n syniad hyfryd, ac yn rhan grêt o'r byd i fyw ynddi - mewn ffordd, dw i'n teimlo y byddai bywyd llawer yn fwy cyfforddus yng Nghymru nag ar gyrion Llundain. Ond yn anffodus, fydda'i ddim yn cymryd rhan."