Gwasanaeth newydd i gleifion canser yng Nghwm Taf

  • Cyhoeddwyd
claf cemotherapiFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae elusen wedi buddsoddi mwy na £500,000 i roi cymorth i gleifion canser ddifrifol wael yng Nghwm Taf.

Mae'r arian, gan Macmillan, yn rhan o wasanaeth newydd i gynnig cymorth arbenigol i gleifion mewn sefyllfaoedd brys neu yn yr ysbyty.

Fel rhan o'r gwasanaeth mae'r tîm yn cynnig gofal a chyngor wedi cymhlethdodau yn ystod triniaeth.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi cleifion sy'n dioddef sgil-effeithau difrifol wedi cemotherapi neu radiotherapi - yn cynnwys heintiau neu anhwylder ar y stumog.

'Datblygiad mentrus'

Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn lleihau'r angen i rai cleifion orfod aros yn yr ysbyty, ac yn rhoi cymorth i'r rhai sydd yn yr ysbyty gael mynd adref ynghynt.

Dywedodd Karen Wingfield, nyrs arbenigol yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf, bod hwn yn "ddatblygiad mentrus a chyffrous, fydd yn gwella profiad cleifion a thu hwnt i'r ganolfan ganser".