Amddiffyn Mesur drafft Cymru

  • Cyhoeddwyd
Baroness Jenny RandersonFfynhonnell y llun, Liberal Democrats

Mae cyn weinidog o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol wedi amddiffyn Mesur drafft Cymru, er i arweinydd ei phlaid yng Nghymru fynnu "nad yw'n dderbyniol".

Fe alwodd y Farwnes Jenny Randerson am "ychydig o berspectif" ar y pwerau newydd sy'n cael eu cynnig i Gymru.

Ychwanegodd y gallai'r mesure "wella'n sylweddol" yn ystod y broses graffu.

Mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams wedi dweud na all y gyfraith arfaethedig "fod yn dderbyniol i bobl Cymru" yn ei ffurf bresennol.

Wrth siarad gydag ACau wedi cyhoeddi'r mesur drafft ddydd Mawrth, fe ddywedodd Ms Williams:

"Mae gan beth sydd o'n blaenau ni heddiw y gallu i fynd â ni'n ôl i sefyllfa lle mae gweithredoedd aelodau -syth wedi eu hethol i'r siambr hon ar ran pobl Cymru - yn cael eu tanseilio dan lywodraeth y DU, os ydyn nhw'n penderfynu nad ydyn nhw'n hapus gyda'n penderfyniadau ni."

Ond ar raglen Sunday Politics Wales, fe ddywedodd y Farwnes Randerson: "Dw i'n credu mai beth sydd angen i ni ei wneud yw cael ychydig o berspectif ar hyn, oherwydd dw i'n siwr ei fod hwn yn fesur drafft allai gael ei wella'n sylweddol.

"Fe fydd yn mynd drwy broses graffu enfawr y Pwyllgor Materion Cymreig yn y misoedd i ddod, cyn mynd drwy Dŷ'r Cyffredin fel mesur llawn, ac yna'r Arglwyddi.

Ac fe alla'i ddweud wrthoch chi y byddwn ni'n mynd drwy bob darn â chrib fan."