Dau yn yr ysbyty yn dilyn tân ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi'u cludo i'r ysbyty wedi iddyn nhw anadlu mwg mewn tân ym Merthyr Tudful.
Fe gafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r tŷ yn Ynysfach ychydig cyn 04:00 fore Llun.
Fe wnaeth y tân gynnau mewn sbwriel y tu allan i'r tŷ, cyn iddo ymestyn i'r gegin.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod y ddau ddyn wedi'u cymryd i Ysbyty'r Tywysog Charles.