Colofn Jo Blog
- Cyhoeddwyd

Mae Jo Blog yn dyfalu sut groeso fydd yna i ffoaduriad o Syria pan fyddan nhw yn cyrraedd tir Cymru.
Ar eu ffordd
Dwi mewn hwyliau reit ddifrifol yr wythnos hon. Achos maen nhw ar eu ffordd. Mae'r ffoaduriaid ar eu ffordd. Ac maen nhw ar eu ffordd i Geredigion.
Mae'n rhaid i mi ddweud bod rhywbeth am hyn wedi cyffwrdd hyd yn oed hen sinig fel fi.
Dwi'n meddwl mai'r hyn ddigwyddodd oedd gweld lluniau'r ffoaduriaid druan mewn cadeiriau olwyn. Dyma fi'n rhydd i fynd yn fy scooter heb ddibynnu ar neb i ngwthio i hyd yn oed, ac yn cwyno'n ddigon aml. A dyma hwythau'n croesi cyfandiroedd yn dibynnu ar ewyllys da trueiniaid eraill i wneud hynny.
Rwy'n fodlon cyfadde' bod eu gweld nhw'n sownd yn y mwd a'r glaw wedi dod a deigryn i lygad yr hen Jo Blog.
Dwi hyd yn oed yn fodlon cyfadde' mod i'n rong am y giwed politically correct 'ma.
Croeso Ceredigion
O'n i'n meddwl, 'dyma nhw eto, mas ar y strydo'dd, yn protestio am rywbeth ym mhen draw'r byd, Palesteina, CND a "ffoaduriaid" (a hynny yn y dyddiau pan oedd UKIP, y Toris a'r BBC yn dal i gyfeirio atyn nhw fel mewnfudwyr). 'NIMBYs - not in my back yard - ydyn nhw yn y bon,' medda fi wrthyf i fy hun.
Ond diawl, dyma nhw, NIMBYs neu beidio, y cyntaf i groesawu ffoaduriaid i Gymru, un o'r rhai cyntaf ym Mhrydain debyg. A'r Cardis, o bawb, yw'r trailblazers. Ac mae digon o le; fe fydd Pantycelyn yn wag am bedair blynedd.
Ond, os ydych chi'n stelcian ar Facebook a Twitter fel ydw i'n gwneud, fe fyddwch wedi sylwi, tra bod cynghorwyr Ceredigion yn cyhoeddi'n falch bod Aberystwyth yn mynd i groesawu ffoaduriaid, roedd un neu ddau o'r hen genedlaetholwyr yn dechrau troi yn ôl at ddefnyddio'r gair 'mewnfudwyr'. Wedi'r cwbl fydd gan rain fawr o Gymraeg, na fydd?
Ac am wn i nad oes ganddyn nhw bwynt.
Peidiwch â nghamddeall i. Rhoi cartref i'r trueiniaid yma yw'r peth cyntaf ddylen ni wneud.
Ond wedyn mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli mai'r Cardis roddodd gartref iddyn nhw ac mai yng Nghymru ac nid yn Lloegr, ac at hynny mai yn y Gymru Gymraeg, maen nhw wedi cael croeso.
Ond falle mod i newydd ddisgyn i fy nhrap fy hun. 'Rhaid iddyn nhw sylweddoli,' medde fi. Falle mai'r hyn y dylwn i ddweud yw, 'dwi'n siŵr y bydden nhw'n sylweddoli.'
DNA cymunedol
A dyna'r bêl yn ôl gyda'r cynghorwyr.
Tybed pa fath o groeso fydd y ffoaduriaid yn ei gael unwaith y byddan nhw wedi dod dros gwtshis shocking-pink Arweinydd y Cyngor Sir?
Dwi'n siŵr bydd y croeso'n gynnes, yn llawn cysur a chefnogaeth a chymorth i setlo ac y bydd y cymorth hwnnw yn cynnwys cyflwyniad i gyfleusterau, gwasanaethau, hanes, diwylliant ac iaith eu cartref newydd, fel bydda fo mewn unrhyw wlad. Gwersi i'r oedolion ac addysg Gymraeg i'r plant.
Tybed ydy'r bobl hyn yn gallu bod yn ffoaduriaid, wedyn yn fewnfudwyr ac wedyn jyst yn ddolen arall yn ein DNA cymunedol ni? Neu ydy honno'n freuddwyd gwrach?
Un peth sy'n sicr, os cyrhaeddith y ffoaduriaid yna mewn cadeiriau olwyn Brydain Fawr, fe fydd yn lle reit groesawgar, diolch i ddeddfau mynediad llywodraethau Llafur y 1990au - ac os ydyn nhw'n lwcus allen nhw gael mobility scooter fel fy un i.
Bydd Jo Blog yn ei ôl ar wefan Cymru Fyw pan fydd rhywun neu rywbeth wedi codi ei wrychyn.
Fe hoffai aelodau tîm Cymru Fyw dynnu eich sylw at y ffaith nad ydym ni erioed wedi gweld Jo Blog yn ein swyddfeydd, felly rydym ni yn cymryd mai cymeriad dychmygol ydy o!