Pont Hafren: AS yn galw am ostwng tollau
- Cyhoeddwyd

Byddai modd torri pris tollau pontydd Hafren yn sylweddol a chasglu digon o arian i'w rhedeg a'u cynnal pan fyddan nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2018, yn ôl AS.
Mae gyrwyr ceir yn talu £6.50 i groesi'r pontydd ar hyn o bryd.
Dywedodd AS Mynwy, David Davies bod modd gwneud gwneud "toriadau dramatig" i'r ffioedd.
Ar hyn o bryd mae'r ffioedd yn cael eu casglu gan gwmni preifat i dalu am y costau adeiladu a chynnal, sydd i fod i gael eu talu erbyn 2018.
Dywedodd Mr Davies ei bod yn bosib i'w cynnal am "ffracsiwn" o'r gost yn 2018 wedi i'r costau yna gael eu talu.
Daw'r ffigyrau gan yr Adran Drafnidiaeth, ac mae'n dweud eu bod yn dangos incwm o £91.4m yn 2014, roedd £13.16m o hynny yn wariant gweithredol a £17m o dreth ar werth - fydd yn cael ei hepgor pan maen nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.
Yn ei gyllideb ym mis Mawrth, dywedodd y Canghellor George Osborne y byddai'r ffi ar gyfer ceir a faniau yn cael eu torri i £5.40 yn 2018.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am reolaeth y pontydd i gael eu datganoli.