Buddsoddi £5m mewn prosiectau cyhoeddus newydd
- Published
Bydd £5m yn cael ei fuddsoddi mewn 10 prosiect cyhoeddus newydd dros y flwyddyn nesaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fore Mawrth.
Bydd y prosiectau yn targedu gwelliannau yn narpariaeth rheng flaen sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru, gyda'r bwriad o wneud arbedion hir-dymor o tua £3m y flwyddyn.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes, y bydd y buddsoddiad o'r gronfa Buddsoddi i Arbed yn "gwella effeithlonrwydd" ac yn cynhyrchu "arbedion hanfodol".
Targedu arbedion ynni
Cyngor Sir Gaerfyrddin bydd yn derbyn y buddsoddiad mwyaf sylweddol, gydag £1.4m wedi'i glustnodi ar gyfer gosod 12,000 o unedau LED mewn goleuadau stryd traddodiadol. Disgwylir i'r prosiect gynhyrchu arbedion o tua £400,000 y flwyddyn.
Mae nifer o'r prosiectau eraill hefyd yn targedu arbedion ynni, gan gynnwys:
- £1m i brosiectau arbed ynni ac allyrriadau carbon ym Mhrifysgol Caerdydd
- £219,000 i Gyngor Sir Ynys Môn i osod goleuadau LED
- £165,000 i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i gyfnewid goleuadau pob gorsaf dân ag unedau LED
- £75,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i osod celloedd ffotofoltäig
Mae'r llywodraeth hefyd yn gobeithio arbed drwy wneud sefydliadau iechyd a diogelwch yn fwy effeithlon. Bydd un gwasanaeth tân a dau fwrdd iechyd yn derbyn nawdd o tua £280,000 yr un:
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sefydlu prosiect diogelwch tai
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i uwchraddio eu pympiau trwytho meddygol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sefydlu Uned Gofal Parhaus i Blant
Yn ogystal, bydd Cyngor Torfaen a Chymdeithas Tai Bron Afon yn derbyn £465,000 ar gyfer prosiect i gefnogi teuluoedd ag anghenion cymhleth, a Chyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn £1 miliwn i wella eu system casglu refeniw.
Cynllun 'arloesol'
Wedi cyhoeddi'r buddsoddiadau, dywedodd Ms Hutt: "Rwy'n falch dros ben o allu cyhoeddi heddiw y bydd deg o brosiectau newydd trwy Gymru yn elwa ar gyfanswm o £5m o fuddsoddiad trwy ein cynllun Buddsoddi i Arbed arloesol.
Yn ystod y cyfnod hwn o bwysau cynyddol ar gyllidebau, mae disgwyl i'r prosiectau hyn gynhyrchu £3m o arbedion hanfodol y flwyddyn ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a gwella effeithlonrwydd."
Ychwanegodd y gallai'r buddsoddiad gael "effaith sylweddol ar wariant cyhoeddus a bywydau a lles cymunedau ar hyd a lled y wlad."