Trafod cyfansoddiad 'ar draul' etholwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae trafod y cyfansoddiad yn ddi-ben-draw yn dod ar draul pryderon bob dydd yr etholwyr yng Nghymru, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Wrth gael ei holi am fesur drafft Cymru dywedodd Stephen Crabb na fyddai mwy o ddeddfwriaeth yn ymwneud a datganoli yng Nghymru yn ystod y senedd bresennol.
Yn ôl Mr Crabb mi fydd Mesur Cymru yn cynnig eglurder ynglŷn â datganoli, wedi i ddwy ddeddf yn y gorffennol fethu a gwneud hynny.
"Dwi'n meddwl wrth edrych yn ôl y gallwch chi feddwl eu bod nhw wedi eu drafftio i gyd fynd â sefyllfa pan fo Prif Weinidog Llafur yng Nghymru ac Ysgrifennydd Cymru o'r Blaid Lafur," meddai.
"Mae'r trefniadau ynglŷn â datganoli wedi bod yn aneglur ac amwys ac mae deddfwriaeth datganoli yn dawedog ar nifer o agweddau o bolisi."
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Prydain gynlluniau fyddai'n ychwanegu at gyfrifoldebau'r Cynulliad.
Mae'r mesur yn cynnwys:
- Model cadw pwerau, fel bod pobl Cymru'n gwybod yn union pa bwerau sydd gan y Cynulliad;
- Pwerau newydd i'r Cynulliad ym meysydd ynni, trafnidiaeth, llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad;
- Rhoi'r hawl i'r Cynulliad newid ei enw.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones mi fydd mesur drafft Cymru yn "cynnau fflam cenedlaetholdeb" am ei fod yn "rhoi feto i weinidogion Lloegr ar ddeddfau Cymru".