Carcharu dyn o Landysul am esgeuluso ceffylau
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Landysul wedi ei garcharu am esgeuluso ei geffylau, ac fe gafodd ei bartner ddedfryd wedi ei gohirio hefyd.
Cafodd David Davies, 56, ei garcharu am 26 wythnos a'i wahardd rhag cadw ceffylau am oes wedi iddo bledio'n euog i achosi dioddefaint diangen i 16 o geffylau.
Cafodd Leanne Summers, 37 oed, ei gwahardd rhag cadw ceffylau am bum mlynedd ac fe gafodd ddedfryd ohiriedig ar ôl ei chael yn euog o chwe trosedd o esgeulustod.
"Roedd y ceffylau wedi eu hesgeuluso yn ofnadwy," dywedodd Julie Fadden o elusen yr RSPCA.
"Roedd dau wedi marw'n barod, ac yn anffodus roedd ceffyl du arall mewn cyflwr mor wael fel nad oedd modd ei achub. Roedd pum ceffyl mynydd Cymreig arall mewn gwahanol gyflwr - gyda rhai yn denau ac eraill yn ddifrifol o denau."