Trafod ad-drefnu addysg ardal Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod cynlluniau dadleuol i ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Rhuthun.
Mae'r cyngor yn ystyried cau dwy ysgol gynradd - Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ag Ysgol Pentrecelyn - gan greu un ysgol cyfrwng Cymraeg categori 2 ar un safle o fis Medi 2017.
Ysgol arall fydd cau o dan gynlluniau arfaethedig y cyngor ydi Ysgol Rhewl. Byddai honno yn cau ar 31 Awst 2017, a'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i adeilad newydd Ysgol Pen Barras, Rhuthun, neu Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun yn dibynnu ar ddewis y rhieni.
Bydd y cyngor hefyd yn trafod cynllun i gau Ysgol Llanbedr, a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn yn Rhuthun.
Gwrthwynebiad
Cafodd penderfyniad y cyngor am ddyfodol Ysgol Llanbedr ei wrthwynebu gan nifer yn lleol, a hefyd gan yr Eglwys yng Nghymru, gan fod Ysgol Llanbedr yn un sydd â statws wirfoddol sydd wedi ei rheoli.
Yn gynharach eleni gwrthododd y Gweinidog Addysg Huw Lewis a chadarnhau penderfyniad y cyngor i gau'r ysgol gan ddadlau fod gwall wedi bod yn rhai o agweddau'r cyngor wrth ymgynghori ar y mater.
Ym mis Mehefin fe ddechreuodd y cyngor ymgynghoriad newydd, ond daeth gwrthwynebiad yn lleol gan nifer yn cynnwys aelodau seneddol ac aelodau'r Cynulliad.
Cyfaddawd
Mae ymgyrchwyr yn gobeithio y gall y cyngor ddod i gyfaddawd drwy ddilyn cynllun newydd - sef creu ffederasiwn rhwng Ysgol Llanbedr a'r ysgol bentref yn Nhrefnant - sydd hefyd yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru.
Mae llywodraethwyr y ddwy ysgol yn gefnogol i'r cynllun hwn, gan ddadlau y byddai o fantais i'r ddwy ysgol.
O dan y fath gynllun byddai'r ddwy ysgol yn cadw eu hunaniaeth unigol ond yn rhannu penaethiaid a chorff llywodraethol.