Cymru yw'r wlad 'dlotaf a mwyaf digalon' y Deyrnas Unedig
- Cyhoeddwyd

Cymru ydi gwlad dlotaf y Deyrnas Unedig a'i phobl y mwyaf digalon, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Mae arolwg gan Sefydliad Legatum o Lundain yn honni mai Ynys Môn, Cymoedd Gwent a de orllewin Cymru ydi tair o ardaloedd mwyaf difreintiedig Prydain.
Daw'r canfyddiadau o gymharu cyfoeth a hapusrwydd ar draws 170 o ardaloedd y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod casgliadau'r adroddiad gan ddweud bod y cynnwys eisoes wedi dyddio.
Pobl Ynys Môn sydd â'r lefel incwm isaf yn y wlad ar gyfartaledd (£11,200 y flwyddyn), meddai'r adroddiad. Mae hynny o dan yr isafswm cyflog cenedlaethol.
Ond trigolion yr ynys yw'r hapusaf yng Nghymru - yn 29ain ar draws Prydain - a'r ardal mwyaf llewyrchus - yn 59 allan o 170 ar y mesur hwn.
Mae Cymoedd Gwent (£12,300) a de orllewin Cymru (£13,300) hefyd yn agos at waelod y tabl o ran incwm.
Pobl Cymoedd Gwent ydi'r mwyaf digalon yng Nghymu - yn 158fed ar draws y Deyrnas Unedig, ychwanegodd yr adroddiad.
Yn ôl Sian Hansen, cyfarwyddwr gweithredol Sefydliad Legatum, mae'r ymchwil yn dangos bod ffyniant yn fwy na dim ond cyfoeth - "mae am deimlo bod bywyd rhywun yn werthfawr".
Ychwanegodd: "Mae'r data yn dangos mai Cymru yw'r wlad leiaf llewyrchus yn y Deyrnas Unedig. Tra bod gwledydd eraill y DU yn perfformio'n gryf o ran cyfoeth neu o ran llesiant, Cymru yw'r wlad dlotaf a'r mwyaf digalon.
"Yn wahanol i wledydd eraill Prydain, Cymru sydd wedi addasu'n lleiaf effeithiol i'r dirywiad yn niwydiannau cynhyrchu a'r cynnydd yng ngwasanaethau economi.
"O ran hyn mae problemau'r wlad yn adnabyddus. Fodd bynnag, beth sy'n drawiadol yw bod yr anhwylder i'w weld nid yn unig ym mherfformiad economaidd Cymru ond hefyd yn hapusrwydd ei phobl."