Yr Urdd yn penodi prif weithredwr newydd i'r mudiad
- Cyhoeddwyd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi penodi Sioned Hughes fel prif weithredwr newydd y mudiad ieuenctid.
Fe fydd yn dechrau ar ei swydd ddechrau'r flwyddyn.
Mae hi wedi ei phenodi i'r swydd wedi i'w rhagflaenydd, Efa Gruffudd Jones MBE, gael ei phenodi yn brif weithredwr newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Ms Hughes yn Gyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru ar hyn o bryd.
Cafodd ei geni yn y Waun, a'i magu yn Rhuthun cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Daearyddiaeth. Bu'n gweithio am flwyddyn i'r Bwrdd Croeso cyn gwneud MSc Cynllunio Gwlad a Thref.
Mae hi nawr wedi ymgartrefu yn Ystum Taf, Caerdydd, lle mae hi'n byw gyda'i phartner Mark a'i phlant, Gwen a Cian.
'Cyfnod cyffrous'
Dywedodd Ms Hughes mai "braint o'r mwyaf" oedd cael ei phenodi yn brif weithredwr yr Urdd.
"Edrychaf ymlaen yn fawr at ddechrau yn fy swydd newydd, gan fod yr Urdd wedi bod yn bwysig i mi erioed," meddai.
"Edrychaf ymlaen at yr her o barhau i roi pob cyfle i ieuenctid Cymru gymdeithasu a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac arwain y mudiad tuag at ddathlu can mlynedd gyffrous a phwysig."
Disgrifiodd Tudur Dylan Jones, cadeirydd yr Urdd, y cyfnod fel un "cyffrous" i'r mudiad.
"Ymhen saith mlynedd byddwn ni'n dathlu ein canmlwyddiant," meddai.
"Rydyn ni'n diolch i Efa Gruffudd Jones am ei gwaith arbennig fel prif weithredwr, ac yn edrych ymlaen at gyfnod pellach o lwyddiant i'r Urdd o dan arweiniad Sioned Hughes."