Caerdydd 0-0 Bristol City
Owain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd yn parhau yn yr wythfed safle yn y Bencampwriaeth ar ôl gêm ddi-sgôr ddiflas yn erbyn Bristol City.
Dyma oedd y tro cyntaf i'r ddau dîm wynebu ei gilydd ers 2013 - achlysur oedd y cefnogwyr wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar ato.
Ond yn y pen draw mi oedd pawb o fewn Stadiwm Dinas Caerdydd yn falch o glywed y chwiban olaf.
Bristol City gafodd gyfle gorau yr hanner cyntaf, ond fe wnaeth golwr Caerdydd, David Marshall, yn wych i arbed peniad Jonathan Kodjia.
Fe gafodd y ddau dîm gyfleon i sicrhau'r tri phwynt yn ystod pum munud olaf y gêm. Fe darrodd Elliott Bennett y postyn i'r ymwelwyr o ongl dynn, cyn i'r eilydd, Sammy Ameobi, ergydio heibio'r postyn i'r Adar Gleision ben arall y cae.
Mae Caerdydd yn ddi-guro mewn pum gêm bellach, ond does bosib fod y rheolwr, Russell Slade, yn gwybod y bydd yn rhaid i'w dîm gynnig mwy'n ymosodol rhwng rwan a diwedd y tymor os am unrhyw obaith o ennill dyrchafiad.