Dirwy am negeseuon testun dieisiau
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni o Abertawe wedi derbyn dirwy o £200,000 gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), am anfon miloedd o negeseuon testun marchnata dieisiau.
Mae Help Direct UK yn gyfrifol am gasglu cwsmeriaid posibl i gwmnïau eraill.
Ym mis Ebrill eleni, fe arweiniodd ymgyrch farchnata gan y cwmni at 6,758 o gwynion mewn un mis yn unig.
Roedd y bobl yn cwyno am amrywiaeth o negeseuon yn cynnig gwasanaethau gan gynnwys adhawlio taliadau PPI, ad-daliadau banc a benthyciadau.
Roedd y negeseuon yn debyg i'r un isod:
It's been signed off, we have 3886.41 in your name for the accident you had, for us to put in your bank Now just fill out www.accidentinjuryclaim.so <http://www.accidentinjuryclaim.so>
Yn ôl yr ICO, "fe ddywedodd un wnaeth gwyno nad oedd erioed wedi cael damwain a'i fod yn poeni bod rhywun yn defnyddio ei fanylion i dwyllo.
"Roedd un arall yn bryderus y gallai fod wedi achosi damwain yn ddiarwybod iddo."
Fe ddarganfyddodd ymchwiliad gan yr ICO bod Help Direct UK yn defnyddio cardiau SIM heb eu cofrestru i anfon y negeseuon.
Hysbysiad gorfodi
Saith mis yn ôl, fe ryddhaodd yr ICO hysbysiad gorfodi yn gorchymyn Help Direct i roi'r gorau anfon negeseuon testun marchnata ar ôl i ymchwiliad blaenorol ddangos ei fod wedi anfon 187,960 o negeseuon yn 2014, llawer yn cynnig adolygiadau pensiwn.
Mae torri hysbysiad gorfodi yn drosedd ac "mae'r ICO yn awr yn ystyried camau pellach".
Meddai Anne Jones, Comisiynydd Cynorthwyol Cymru: "Roedd hon yn ymgyrch farchnata ar raddfa anferth gan gwmni sydd eisoes wedi cael ei rybuddio gennym i stopio anfon y negeseuon marchnata yma.
"Aeth Help Direct ati yn fwriadol i dorri'r gyfraith trwy barhau i anfon y negeseuon yma, a dyna pam bod y cwmni wedi cael y gosb ariannol gyntaf dan ein pwerau newydd.
"Dangosodd y cwmni hefyd ddiffyg parch amlwg i'r rheolau trwy anwybyddu camau gorfodi a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni. Yn awr maent yn wynebu canlyniadau'r penderfyniad hwnnw.
"Mae gweithgareddau Help Direct yn annerbyniol a byddwn yn gweithredu i atal cwmnïau rhag gweithredu yn y modd yma. Mae gennym y grym i erlyn unrhyw un sy'n anwybyddu ein hysbysiadau gorfodi ac, yn ogystal â'r ddirwy, gall Help Direct ddisgwyl mwy o weithredu eto gennym."