Buddsoddiad £5.6m i greu 50 o swyddi yn Y Trallwng

  • Cyhoeddwyd
Invertek Drives Trallwng
Disgrifiad o’r llun,
Bydd safle arall yn cael ei adeiladu ym Mharc Busnes Clawdd Offa yn Y Trallwng

Mae gobaith y bydd hyd at 50 o swyddi'n cael eu creu yn Y Trallwng, wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn ffatri newydd i gwmni Invertek Drives, er mwyn galluogi'r cwmni i ehangu yn y dref.

Mae'r cwmni'n dylunio ac yn cynhyrchu teclynau sy'n cael eu defnyddio i reoli peiriannau mewn amrywiaeth eang iawn o systemau sy'n arbed ynni a systemau diwydiannol.

Mae Invertek Drives yn gwmni annibynnol gafodd ei sefydlu 1998, ac yn cyflogi 190 o bobl ledled y byd, gan gynnwys dros 170 yn ei bencadlys yn Y Trallwng.

Er mwyn ehangu yn y dref, mae angen mwy o le ar y cwmni.

Mewn datganiad bore Mercher, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y buddsoddiad yn helpu i "adeiladu uned newydd ar wahân, 56,500 troedfedd sgwâr ym Mharc Busnes Clawdd Offa sydd gyferbyn â phrif gyfleuster cynhyrchu a phencadlys Invertek Drives, adeilad y mae'r cwmni'n ei rentu gan Lywodraeth Cymru.

"Unwaith bydd y cynlluniau manwl wedi'u llunio bydd cais cynllunio'n cael ei gyflwyno."

'Cyflogwr pwysig'

Dywedodd Edwina Hart: "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu'r cwmni i weithredu hyd eithaf ei allu a sicrhau bod y busnes yn parhau i dyfu yn y Trallwng.

"Mae Invertek Drives yn gyflogwr pwysig yn y Trallwng ac o ehangu, bydd yn cael effaith sylweddol ar yr economi leol wrth iddo gynyddu ei gynhyrchiant i fodloni'r galw cynyddol sydd ledled y byd am ei gynnyrch, a thros y tair blynedd nesaf, creu swyddi newydd, medrus iawn."

Dywedodd Charles Haspel, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Invertek Drives: "Mae Llywodraeth Cymru wedi'n helpu i ddatblygu technoleg blaengar iawn a gweithlu medrus tu hwnt sy'n angenrheidiol er mwyn cystadlu'n llwyddiannus ar lwyfan rhyngwladol."